OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1815 (Cy. 260)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r amgylchiadau pan fo’n ofynnol neu pan ganiateir i awdurdodau lleol wneud taliadau uniongyrchol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 (“y Ddeddf”) fel ffordd o ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth.
Mae rheoliad 2 yn nodi’r amgylchiadau pan fydd awdurdodau lleol o dan ddyletswydd i wneud taliadau uniongyrchol. Bydd y ddyletswydd yn gymwys ym mhob achos pan fydd yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn adrannau 50, 51 neu 52 o’r Ddeddf wedi eu bodloni ac eithrio mewn achosion y mae rheoliad 14 yn gymwys iddynt. Mae rheoliad 3 yn darparu bod gwneud taliadau uniongyrchol yn cyflawni swyddogaeth awdurdod lleol (pa un a yw’n ddyletswydd neu’n ddisgresiwn) i ddiwallu anghenion gofal a chymorth.
Mae rheoliad 4 yn cyflawni’r gofyniad yn adran 53(5) o’r Ddeddf bod y Rheoliadau’n cynnwys darpariaeth ynglŷn â’r camau y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd i alluogi pobl i wneud dewisiadau deallus ynghylch taliadau uniongyrchol.
Mae rheoliad 5 yn nodi rhai camau ychwanegol y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd os nad oes galluedd gan y person y mae’r taliadau i’w gwneud er ei les.
Mae rheoliad 6 yn nodi yr amgylchiadau pan ganiateir i daliadau uniongyrchol gael eu defnyddio i dalu person sy’n berthynas ac sy’n byw ar yr un aelwyd â’r person y maent yn cael eu gwneud er ei les. Mae rheoliad 7 yn gosod gofyniad sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau uniongyrchol fod yn ddarostyngedig i amodau pan na fo galluedd gan y person y maent yn cael eu gwneud er ei les.
Mae rheoliad 8 yn rhoi disgresiwn i awdurdodau lleol wneud taliadau uniongyrchol yn ddarostyngedig i amodau. Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol benderfynu pa un ai i wneud taliadau fel taliadau gros neu daliadau net ac ystyried amgylchiadau ariannol person wrth wneud y penderfyniad hwnnw. Mae rheoliad 10 yn nodi pryd y caiff awdurdod lleol derfynu’r trefniadau ar gyfer taliadau uniongyrchol a’i gwneud yn ofynnol iddynt gael eu had-dalu.
Mae rheoliad 11 yn creu gofynion ynghylch amlder adolygiadau a’r bobl y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol eu cynnwys yn yr adolygiad.
Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth i gydymffurfio â’r gofyniad yn adran 53(7) o’r Ddeddf bod rhaid i’r Rheoliadau bennu’r budd-daliadau y byddai eu cael yn cymhwyso person i gael taliadau uniongyrchol heb fod yn ddarostyngedig i unrhyw gyfraniad.
Mae rheoliad 13 yn cynnwys darpariaeth ynglŷn â therfynu taliadau uniongyrchol os yw oedolyn y mae taliadau uniongyrchol yn cael eu gwneud iddo yn colli ei alluedd.
Mae rheoliad 14 yn gymwys mewn perthynas ag ystod o bersonau sy’n ddarostyngedig i ofynion sy’n cael eu gwneud drwy orchmynion yn y system cyfiawnder troseddol neu ofynion trwydded ar ôl dedfryd ac sy’n ymwneud â defnydd y person o gyffuriau neu alcohol. Mae awdurdodau lleol yn cael gwneud taliadau uniongyrchol i’r personau hyn ond ni chânt wneud hynny ond ar yr amod y gwneir taliad i berson arall sy’n addas a bod y ddau berson yn cytuno â’r trefniant.
Mae rheoliad 15 yn nodi’r addasiadau sy’n gymwys i bersonau y mae hawlogaeth ganddynt i gael gwasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1815 (Cy. 260)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2015
Gwnaed 21 Hydref 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 3 Tachwedd 2015
Yn dod i rym 6 Ebrill 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 50, 51, 52, 53 a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014([1])([2]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a
Chymorth (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
defnyddir “A” (“A”) i gyfeirio at berson y mae neu y bydd ei anghenion gofal a chymorth neu ei anghenion cymorth yn cael eu diwallu drwy wneud taliadau uniongyrchol;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
defnyddir “P” (“P”) i gyfeirio at berson sydd, neu y cynigir iddo fod, yn dderbynnydd taliadau uniongyrchol ac sy’n “person addas”([3]) at ddibenion adran 50(4) o’r Ddeddf neu’n berson sydd â chyfrifoldeb rhiant([4]) dros A y caniateir i daliadau uniongyrchol gael eu gwneud iddo er lles A o dan adran 51 o’r Ddeddf;
ystyr “perthynas” (“relative”) yw—
(a) priod neu bartner sifil;
(b) person sy’n byw gyda pherson fel petai’n briod neu’n bartner sifil;
(c) rhiant, rhiant-yng-nghyfraith neu lys-riant;
(d) mab neu ferch;
(e) mab-yng-nghyfraith neu ferch-yng-nghyfraith;
(f) llys-fab neu lys-ferch;
(g) brawd neu chwaer;
(h) modryb neu ewythr;
(i) tad-cu/taid neu fam-gu/nain; neu
(j) priod neu bartner sifil unrhyw berson a bennir yn is-baragraffau (c) i (i);
mae “taliad uniongyrchol” (“direct payment”) wedi ei ddiffinio yn adrannau 50(7), 51(7) a 52(7) o’r Ddeddf.
(5) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at anghenion person “am ofal a chymorth” i’w darllen fel ei “anghenion am gymorth” pan fo’r person yn ofalwr.
Dyletswydd i wneud taliadau uniongyrchol
2. Pan fo—
(a) awdurdod lleol—
(i) o dan ddyletswydd i ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth o dan adran 35, 37, 39, 40 neu 42 o’r Ddeddf; neu
(ii) wedi penderfynu diwallu anghenion person am ofal a chymorth o dan adran 36 neu 38 o’r Ddeddf neu gymorth mewn perthynas â gofalwr o dan adran 45 o’r Ddeddf;
a
(b) yr amodau yn adran 50, 51 neu 52 o’r Ddeddf (yn ôl y digwydd) wedi eu bodloni,
rhaid i awdurdod lleol wneud taliadau uniongyrchol tuag at y gost o ddiwallu anghenion y person hwnnw am ofal a chymorth onid yw’r person yn berson y mae rheoliad 14 yn gymwys iddo.
Effaith gwneud taliadau
3. Pan fo awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol i berson, mae gwneud y taliadau yn disodli dyletswydd neu bŵer yr awdurdod lleol i ddarparu, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, er mwyn diwallu’r anghenion, neu’r agwedd honno ar yr anghenion, y gwneir y taliadau mewn perthynas â hwy neu hi a hynny am hyd y cyfnod y gwneir y taliadau ar ei gyfer.
Camau i alluogi gwneud dewisiadau deallus ynghylch taliadau uniongyrchol
4.—(1)(1) Pan fo awdurdod lleol—
(a) yn penderfynu y bydd yn diwallu anghenion A am ofal a chymorth, a
(b) yn dyfarnu bod gwneud taliadau uniongyrchol yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion A,
rhaid iddo ddarparu gwybodaeth i A i sicrhau bod A yn gallu gwneud dewis deallus ynghylch pa un a yw’n cydsynio bod taliadau yn cael eu gwneud ai peidio.
(2) Rhaid i’r wybodaeth y mae’r awdurdod lleol yn ei darparu gynnwys—
(a) sut y mae’n bwriadu diwallu’r anghenion hynny os na chaiff yr anghenion eu diwallu drwy wneud taliadau uniongyrchol;
(b) cadarnhad ynghylch a yw taliadau uniongyrchol, ym marn yr awdurdod lleol, yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion A([5]);
(c) gwybodaeth am natur a diben taliadau uniongyrchol;
(d) gwybodaeth am ffyrdd gwahanol o reoli taliadau uniongyrchol;
(e) swm unrhyw daliadau y byddai gan y person hawlogaeth iddynt os oedd dewis wedi ei wneud i gael taliad uniongyrchol a sut y câi swm y taliad ei gyfrifo;
(f) gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i gynorthwyo pobl i reoli taliadau uniongyrchol pa un ai oddi wrth yr awdurdod lleol neu oddi wrth unrhyw berson arall;
(g) gwybodaeth am effaith asesiad ariannol ac, yn achos yr anghenion o dan sylw, a fyddai unrhyw daliadau uniongyrchol yn debyg o gael eu gwneud fel taliadau gros neu daliadau net.
(3) Pan fo A yn oedolyn nad oes ganddo alluedd, rhaid i’r awdurdod lleol, yn lle hynny, ddarparu’r wybodaeth i unrhyw berson a awdurdodir o dan Ddeddf Galluedd Meddwl 2005([6]) i wneud penderfyniadau ynghylch A.
(4) Pan fo A yn blentyn 16 neu 17 oed nad oes ganddo alluedd, neu’n blentyn o dan 16 oed nad oes ganddo ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus, rhaid i’r awdurdod lleol, yn lle hynny, ddarparu’r wybodaeth i berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros A.
Dyletswydd i ymgynghori a chymryd camau eraill ar gyfer personau sydd heb alluedd
5. Cyn ystyried a yw taliadau uniongyrchol yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion A pan fo A yn oedolyn sydd heb alluedd, rhaid i awdurdod lleol—
(a) ymgynghori â’r canlynol—
(i) unrhyw un sydd wedi ei enwi gan A fel rhywun y dylid ymgynghori ag ef ar y mater;
(ii) unrhyw un sy’n ymgymryd â gofalu dros A neu y mae ganddo ddiddordeb sylweddol yn lles A;
(iii) P; a
(iv) person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (pa un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i wneud penderfyniadau ynghylch anghenion A am ofal a chymorth;
(b) pan fo A yn oedolyn yr oedd ganddo alluedd o’r blaen, ystyried, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol—
(i) barn, dymuniadau a theimladau A yn y gorffennol a’r presennol ac, yn benodol, unrhyw ddatganiad ysgrifenedig perthnasol a wnaed gan A tra’r oedd ganddo alluedd o hyd;
(ii) y credoau a’r gwerthoedd a fyddai’n debyg o ddylanwadu ar benderfyniad A; a
(iii) unrhyw ffactorau perthnasol eraill y byddai A, ym marn yr awdurdod lleol, yn debyg o’u hystyried, os byddai’n gallu gwneud hynny; ac
(c) cael tystysgrif cofnod troseddol fanylach a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997([7]) mewn cysylltiad â P pan fo P yn unigolyn ond nad yw’n berthynas i A nac yn gyfaill i A sy’n ymwneud â gofal A.
Amodau ynghylch defnyddio taliadau uniongyrchol i dalu perthnasau
6.—(1)(1) Caiff awdurdod lleol awdurdodi defnyddio taliadau
uniongyrchol i dalu perthynas i A sy’n byw ar yr un aelwyd os
yw o’r farn ei bod yn angenrheidiol i hyrwyddo llesiant
A.
(2) Caniateir i daliadau gael eu hawdurdodi i dalu’r perthynas naill ai—
(a) am ddarparu gofal a chymorth i A; neu
(b) am gynorthwyo A i reoli’r taliadau.
(3) Wrth ystyried a yw’n angenrheidiol i hyrwyddo llesiant A yn unol â pharagraff (1), rhaid i awdurdod lleol ystyried barn A a barn y personau eraill a grybwyllir yn rheoliad 11(3).
(4) Pan na fo awdurdod lleol o’r farn ei bod yn angenrheidiol hyrwyddo llesiant A, rhaid iddo osod amod nad yw taliadau uniongyrchol i’w defnyddio i dalu perthynas i A sy’n byw ar yr un aelwyd.
Amodau sy’n gofyn am fetio
7.—(1)(1) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol o
dan adran 50 o’r Ddeddf i P am nad oes gan A alluedd, rhaid
iddo osod amodau fel y’u nodir yn y rheoliad hwn.
(2) Yr amodau yw bod P—
(a) yn gweithredu er lles pennaf A wrth sicrhau bod gofal a chymorth yn cael eu darparu; a
(b) yn hysbysu’r awdurdod lleol os yw P yn credu nad yw A bellach heb alluedd.
(3) Pan fo’r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys, rhaid i’r awdurdod lleol osod hefyd amod bod P yn cael—
(a) tystysgrif cofnod troseddol fanylach a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 gan gynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to vulnerable adults” gan adran 113BB o’r Ddeddf honno) neu blant (o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” gan adran 113BA o’r Ddeddf honno); neu
(b) gwiriad bod tystysgrif foddhaol o’r math hwnnw wedi ei chael,
mewn cysylltiad ag unrhyw berson y sicrheir gwasanaeth oddi wrtho a hwnnw’n wasanaeth y gwneir taliadau uniongyrchol amdano.
(4) Yr amgylchiadau pan fo rhaid i awdurdod lleol osod yr amod ym mharagraff (3) yw nad yw P—
(a) yn berthynas i A; na
(b) yn gyfaill i A sy’n ymwneud â darparu gofal ar gyfer A.
Amodau pellach y caiff awdurdod lleol eu cymhwyso i wneud taliadau uniongyrchol
8.—(1)(1) Caiff awdurdod lleol wneud taliad uniongyrchol yn
ddarostyngedig i amodau pellach.
(2) Caiff amodau a osodir o dan baragraff (1), er enghraifft, gynnwys gofyniad—
(a) na chaniateir i’r anghenion y mae taliad yn cael ei wneud mewn cysylltiad â hwy gael eu diwallu gan berson penodol;
(b) bod rhaid i dderbynnydd y taliadau ddarparu gwybodaeth y mae ar yr awdurdod lleol angen rhesymol ei chael at ddibenion sicrhau bod taliadau uniongyrchol yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion A.
(3) Ni chaiff amod a osodir o dan baragraff (2)(a) ei gwneud yn ofynnol mai dim ond gan berson penodol y caniateir i anghenion A gael eu diwallu.
Taliadau net neu daliadau gros
9.—(1)(1) Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu gwneud taliadau
uniongyrchol, pa un ai o dan reoliad 2 neu reoliad 14 o’r
Rheoliadau hyn([8]), rhaid iddo benderfynu
pa un ai i’w gwneud fel taliadau net neu daliadau
gros.
(2) Wrth benderfynu pa un ai i wneud taliadau net neu daliadau gros rhaid i awdurdod lleol ystyried yr effaith ar A gan roi sylw i amgylchiadau ariannol A.
Ad-dalu taliadau uniongyrchol
10. Caiff awdurdod lleol derfynu ei drefniadau ar gyfer gwneud taliadau uniongyrchol a chaiff ei gwneud yn ofynnol i’r cyfan neu ran o’r taliadau uniongyrchol y mae wedi eu gwneud gael ei ad-dalu neu ei had-dalu os yw wedi ei fodloni naill ai—
(a) nad yw’r taliadau wedi eu defnyddio i ddiwallu’r angen y maent yn ymwneud ag ef; neu
(b) nad ydys wedi cydymffurfio ag amod a osodwyd o dan reoliad 6, 7, 8 neu 14.
Adolygiadau
11.—(1)(1) Rhaid i awdurdod lleol adolygu’r trefniadau ar
gyfer gwneud taliadau uniongyrchol a’r defnydd sy’n
cael ei wneud ohonynt—
(a) fesul ysbaid y mae’r awdurdod lleol yn dyfarnu ei bod yn briodol ar ddechrau gwneud taliadau uniongyrchol i A, gan roi sylw i amgylchiadau achos A;
(b) pan fydd A neu P yn galw am adolygiad;
(c) pan fydd yr awdurdod lleol yn galw am adolygiad oherwydd—
(i) ei fod yn pryderu nad yw’r defnydd sy’n cael ei wneud o’r taliadau uniongyrchol yn diwallu anghenion A;
(ii) ei fod yn pryderu nad ydys yn cydymffurfio ag amod sydd wedi ei osod ar wneud y taliadau; neu
(iii) bod newid sylweddol yn amgylchiadau A neu P; a
(d) sut bynnag, fesul ysbaid nad yw’n hwy na—
(i) 6 mis ar ôl gwneud y taliad cyntaf; a
(ii) 12 mis yn dilyn yr adolygiad cyntaf.
(2) Pan fo A, P neu’r awdurdod lleol yn galw am adolygiad o dan baragraff (1)(b) neu (c), estynnir yn unol â hynny y cyfnod cyn bod yr adolygiad nesaf i fod i ddigwydd.
(3) Wrth gynnal adolygiad, rhaid i’r awdurdod lleol gynnwys—
(a) A;
(b) P (pan fo taliadau i’w gwneud i P);
(c) unrhyw ofalwr dros A;
(d)(d) (i)(i) unrhyw berson y mae A yn gofyn i’r awdurdod lleol
ei gynnwys;
(ii) os yw A yn oedolyn nad oes ganddo alluedd i benderfynu pwy i’w gynnwys, unrhyw berson a awdurdodir o dan Ddeddf Galluedd Meddwl 2005 i wneud penderfyniadau ynghylch anghenion A am ofal a chymorth;
(iii) os yw A yn blentyn 16 neu 17 oed nad oes ganddo alluedd i benderfynu pwy i’w gynnwys—
(aa) unrhyw berson a awdurdodir i wneud penderfyniadau ynghylch anghenion A am ofal a chymorth o dan Ddeddf Galluedd Meddwl 2005; neu
(bb) person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros A;
(iv) os yw A yn blentyn o dan 16 oed, rhiant A neu berson arall mewn rôl rhiant; ac
(e) unrhyw berson arall y mae’r awdurdod lleol o’r farn bod ganddo ymglymiad digonol yn y trefniadau gofal neu gymorth ar gyfer A.
(4) Nid yw’r gofyniad i gynnwys rhiant neu berson arall mewn rôl rhiant mewn adolygiad o dan baragraff (3)(d)(iv) yn gymwys pan fyddai cynnwys y person hwnnw, ym marn yr awdurdod lleol, yn anghyson â llesiant y plentyn.
(5) Yn y rheoliad hwn mae “person mewn rôl rhiant” (“person in a parental role”) yn cynnwys rhiant, person sydd â chyfrifoldeb rhiant neu berson arall sy’n gofalu am y plentyn.
Taliadau uniongyrchol ar gyfer plentyn
12.—(1)(1) Pan fo A yn blentyn a bod awdurdod lleol yn gwneud
taliadau uniongyrchol o dan adran 51 o’r Ddeddf tuag at y
gost o ddiwallu anghenion gofal a chymorth y plentyn hwnnw, rhaid
i’r awdurdod lleol, os yw’r amod ym mharagraff (2) wedi
ei fodloni, fodloni gan hynny ofynion paragraff (3).
(2) Yr amod yn y paragraff hwn yw bod naill ai A neu P yn cael—
(a) cymhorthdal incwm o dan Ran 7 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992([9]);
(b) unrhyw elfen o gredyd treth plant ac eithrio’r elfen deuluol;
(c) credyd treth gwaith;
(d) lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm;
(e) lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm; neu
(f) credyd cynhwysol.
(3) Y gofynion yn y paragraff hwn yw—
(a) bod rhaid i’r awdurdod lleol wneud y taliadau ar y raddfa y mae’n amcangyfrif ei bod yn gost resymol darpariaeth i ddiwallu’r anghenion gofal a chymorth y gwneir y taliadau mewn cysylltiad â hwy; a
(b) na chaniateir i’r awdurdod lleol wneud y taliadau yn ddarostyngedig i unrhyw amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r plentyn A, neu dderbynnydd y taliad P, dalu unrhyw swm i’r awdurdod ar ffurf ad-daliad.
(4) Yn y rheoliad hwn—
(a) dehonglir “credyd treth plant” (“child tax credit”) yn unol ag adran 8 o Ddeddf Credydau Treth 2002([10]) ac mae i “elfen deuluol” yr un ystyr a roddir i “family element” yn adran 9(3) o’r Ddeddf honno;
(b) dehonglir “credyd treth gwaith” (“working tax credit”) yn unol ag adrannau 10 i 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002;
(c) mae i “lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm” yr ystyr a roddir i “income-based jobseeker’s allowance” yn adran 1(4) o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995([11]);
(d) ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm” (“income-related employment and support allowance”) yw lwfans seiliedig ar incwm o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007([12]) (lwfans cyflogaeth a chymorth);
(e) dehonglir “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yn unol â Rhan 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012([13]).
Taliadau uniongyrchol ar gyfer oedolyn nad oes ganddo alluedd mwyach
13.—(1)(1) Nid oes rhaid i awdurdod lleol derfynu’r arfer o
wneud taliadau uniongyrchol o dan adran 50 o’r Ddeddf mewn
perthynas ag A pan fo A yn oedolyn y mae paragraff (2) yn gymwys
iddo a bod un o’r amgylchiadau ym mharagraff (3) yn
gymwys.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo A yn oedolyn y bodlonwyd amod 1 yn is-adran (3)(b) o adran 50 o’r Ddeddf mewn perthynas ag ef oherwydd yr oedd ganddo alluedd i gydsynio bod taliadau yn cael eu gwneud ar yr adeg y dechreuodd y trefniant, ond ei fod wedi colli’r galluedd wedi hynny.
(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo naill ai—
(a) yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod colled A o’r galluedd i gydsynio bod taliadau yn cael eu gwneud yn golled dros dro a bod naill ai—
(i) cyfnod neu gyfnodau colli’r galluedd yn annhebyg o effeithio ar allu A i reoli’r taliadau; neu
(ii) person arall y mae’n ymddangos i’r awdurdod ei fod yn gallu rheoli’r taliadau yn fodlon derbyn a rheoli’r taliadau ar ran A yn ystod cyfnodau diffyg galluedd A; neu
(b) amod 2 yn is-adran (4) o adran 50 o’r Ddeddf wedi ei fodloni.
Personau sy’n ddarostyngedig i ofynion a osodwyd mewn perthynas â defnyddio cyffuriau neu alcohol
14.—(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i bersonau a restrir
yn yr Atodlen.
(2) Caiff awdurdod lleol wneud taliad uniongyrchol i berson y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ond dim ond os yw’n gosod amodau yn y termau a nodir ym mharagraff (3) a bod yr amod pellach ym mharagraff (4) yn cael ei fodloni.
(3) Yr amodau y mae’n rhaid eu gosod yw—
(a) bod A yn cytuno ac yn parhau i gytuno bod taliadau yn cael eu gwneud i berson (“B”) er mwyn iddo eu rheoli ar ran A; a
(b) bod B yn cytuno ac yn parhau i gytuno i gael y taliadau ac i reoli’r taliadau er mwyn diwallu anghenion A am ofal a chymorth.
(4) Yr amod pellach yw bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod B yn berson priodol i gael a rheoli taliadau ar ran A.
Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
15.—(1)(1) Pan fo awdurdod lleol o dan ddyletswydd i ddarparu
gwasanaethau ôl-ofal ar gyfer person o dan adran 117 o Ddeddf
Iechyd Meddwl 1983([14]) a bod yr amodau yn
adrannau 50, 51 a 52 o’r Ddeddf (fel y’u haddaswyd gan
Atodlen A1) wedi eu bodloni, yna rhaid iddo wneud taliadau
uniongyrchol i gyflawni ei ddyletswydd.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i daliadau uniongyrchol a wneir wrth gyflawni dyletswydd awdurdod lleol o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 gyda’r addasiadau canlynol.
(3) Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at “ôl-ofal” (“after-care”) neu “gwasanaethau ôl-ofal” (“after-care services”) i’w dehongli yn unol ag adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
(4) Yn rheoliad 3 dileer y geiriau “diwallu’r anghenion, neu’r agwedd honno ar yr anghenion, y gwneir y taliadau mewn perthynas â hwy neu hi” a rhodder yn eu lle “cyflawni ei ddyletswydd o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 neu’r agwedd honno ar y ddyletswydd, y gwneir y taliadau mewn perthynas â hi”.
(5) (a) Yn rheoliad 4(1)(a) dileer y geiriau “diwallu anghenion A am ofal a chymorth,” a rhodder yn eu lle “darparu gwasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”;
(b) yn rheoliad 4(1)(b) dileer y geiriau “ddiwallu anghenion A” a rhodder yn eu lle “gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”;
(c) yn rheoliad 4(2)(a) dileer y geiriau “diwallu’r anghenion hynny” a rhodder yn eu lle “cyflawni ei ddyletswydd”; a
(d) hepgorer rheoliad 4(2)(g).
(6) Yn rheoliad 5 dileer y geiriau “ddiwallu anghenion” a rhodder yn eu lle “gyflawni ei ddyletswydd tuag at”.
(7) Yn rheoliad 6(2)(a) dileer y geiriau “gofal a chymorth” a rhodder yn eu lle “ôl-ofal”.
(8) Yn rheoliad 7(2)(a) dileer y geiriau “gofal a chymorth” a rhodder yn eu lle “gwasanaethau ôl-ofal”.
(9) (a) Yn rheoliad 8(2)(a) dileer y geiriau “anghenion y mae taliad yn cael ei wneud mewn cysylltiad â hwy gael eu diwallu” a rhodder yn eu lle “gwasanaethau ôl-ofal y gwneir taliadau mewn cysylltiad â hwy gael eu darparu”;
(b) yn rheoliad 8(2)(b) dileer y geiriau “ddiwallu anghenion A” a rhodder yn eu lle “gyflawni ei ddyletswydd tuag at A”; ac
(c) yn rheoliad 8(3) dileer y geiriau “caniateir i anghenion A gael eu diwallu” a rhodder yn eu lle “caniateir i wasanaethau ôl-ofal gael eu darparu”.
(10) Hepgorer rheoliad 9.
(11) Yn rheoliad 10(a) dileer y geiriau “ddiwallu’r angen” a rhodder yn eu lle “ddarparu’r gwasanaeth ôl-ofal”.
(12) (a) Yn rheoliad 11(1)(c)(i) dileer y geiriau “diwallu anghenion” a rhodder yn eu lle “cyflawni ei ddyletswydd tuag at”;
(b) yn rheoliad 11(3)(d)(ii) dileer y geiriau “ofal a chymorth” a rhodder yn eu lle “ôl-ofal”.
(13) Hepgorer rheoliad 12.
(14) Yn rheoliad 14(3)(b) dileer y geiriau “diwallu anghenion A am ofal a chymorth” a rhodder yn eu lle “darparu gwasanaethau ôl-ofal ar gyfer A”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
21 Hydref 2015
YR ATODLEN Rheoliad 14(1)
Oedolion y caiff yr awdurdod lleol ddiwallu eu hanghenion drwy wneud taliadau uniongyrchol yn ddarostyngedig i amodau penodol
Mae’r Atodlen hon yn gymwys i berson os yw—
(a) yn destun gofyniad adsefydlu cyffuriau, fel y diffinnir “drug rehabilitation requirement” gan adran 209 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003([15]), a osodwyd gan orchymyn cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community order” gan adran 177 o’r Ddeddf honno, neu gan ddedfryd ohiriedig o garchar o fewn yr ystyr a roddir i “suspended sentence of imprisonment” gan adran 189 o’r Ddeddf honno;
(b) yn destun gofyniad triniaeth alcohol fel y diffinnir “alcohol treatment requirement” gan adran 212 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, a osodwyd gan orchymyn cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community order” gan adran 177 o’r Ddeddf honno neu gan ddedfryd ohiriedig o garchar o fewn yr ystyr a roddir i “suspended sentence of imprisonment” gan adran 189 o’r Ddeddf honno;
(c) wedi ei ryddhau ar drwydded o dan Ran 2 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991([16]), Pennod 6 o Ran 12 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 neu Bennod 2 o Ddeddf (Dedfrydau) Troseddau 1997([17]), yn ddarostyngedig i amod trwydded ansafonol sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y troseddwr yn ymgymryd â gwaith ymddygiad troseddol i fynd i’r afael ag ymddygiad sy’n gysylltiedig â chyffuriau neu alcohol;
(d) o dan ofyniad i dderbyn triniaeth ar gyfer ei ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol yn rhinwedd gorchymyn adsefydlu cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community rehabilitation order” gan adran 41 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000([18]) neu orchymyn cosbi ac adsefydlu cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community punishment and rehabilitation order” gan adran 51 o’r Ddeddf honno;
(e) yn destun gorchymyn trin a phrofi cyffuriau a osodwyd o dan adran 52 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000;
(f) o dan ofyniad i dderbyn triniaeth ar gyfer ei ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol yn rhinwedd gofyniad mewn gorchymyn prawf o fewn yr ystyr a roddir i “probation order” gan adrannau 228 i 230 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995([19]) neu yn destun gorchymyn trin a phrofi cyffuriau o fewn yr ystyr a roddir i “drug treatment and testing order” gan adran 234B o’r Ddeddf honno; neu
(g) wedi ei ryddhau ar drwydded o dan adran 22 neu 26 o Ddeddf Carchardai (Yr Alban) 1989([20]) neu o dan adran 1 neu 1AA o Ddeddf Carcharorion ac Achosion Troseddol (Yr Alban) 1993([21]) ac yn ddarostyngedig i amod ei fod yn derbyn triniaeth am ei ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol.
([2]) Mae adrannau 50 i 53 o’r Ddeddf wedi eu haddasu mewn perthynas â phersonau y mae adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn gymwys iddynt gan y darpariaethau yn Atodlen A1 i’r Ddeddf (a fewnosodwyd gan adran 75 o Ddeddf Gofal 2014 (p. 23) a Rhan 2 o Atodlen 4 iddi).
([4]) Mae “cyfrifoldeb rhiant” wedi ei ddiffinio yn adran 197(1) o'r Ddeddf drwy gyfeirio at adran 3 o Ddeddf Plant 1989 (p. 41).
([5]) Un o'r amodau ar gyfer sbarduno gofyniad neu ddisgresiwn i wneud taliadau uniongyrchol i ddiwallu angen person am ofal a chymorth yw bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod taliadau uniongyrchol yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion y person – gweler adrannau 50(3)(c)(i), 50(4)(d)(i), 51(5)(a) a 52(5)(a) o'r Ddeddf.
([8]) Cyn gwneud penderfyniad ynghylch pa un ai i wneud taliadau uniongyrchol bydd awdurdod lleol wedi cynnal asesiad ariannol yn unol â rheoliad 6 o Reoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1844 (Cy. 272)) a bydd wedi gwneud dyfarniad yn unol â rheoliad 20 o Reoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1843 (Cy. 271)).